Tekst piosenki:
Hen ferchetan wedi colli’i chariad,
ffal-di ral-di ral-da ffal-di ral-di ro.
Cael un arall, dyna oedd ei bwriad,
ffal-di ral-di ral-da ffal-di ral-di ro.
Ond nid oedd un o lancie’r pentre,
ffal-di ral-di ral-di ro,
am briodi Lisa fach yr Hendre,
ffal-di ral-di ral-da ffal-di ral-di ro.
Hen ferchetan sydd yn dal i drio,
ffal-di ral-di ral-da ffal-di ral-di ro.
Gwisgo lase sidan ac ymbincio,
ffal-di ral-di ral-da ffal-di ral-di ro.
Ond os oes brân i frân yn rhywle,
ffal-di ral-di ral-di ro,
nid oes neb i Lisa fach yr Hendre,
ffal-di ral-di ral-da ffal-di ral-di ro.
Hen ferchetan bron â thorri’i chalon,
ffal-di ral-di ral-da ffal-di ral-di ro.
Mynd i’r llan mae pawb o’r hen gariadon,
ffal-di ral-di ral-da ffal-di ral-di ro.
Bydd tatws newydd ar bren ‘fale,
ffal-di ral-di ral-di ro,
cyn briodith Lisa fach yr Hendre,
ffal-di ral-di ral-da ffal-di ral-di ro.
Hen ferchetan aeth i Ffair y Bala,
ffal-di ral-di ral-da ffal-di ral-di ro.
Gweld Siôn Prys yn fachgen digon smala,
ffal-di ral-di ral-da ffal-di ral-di ro.
Gair a ddywedodd wrth fynd adre’,
ffal-di ral-di ral-di ro,
gododd calon Lisa fach yr Hendre,
ffal-di ral-di ral-da ffal-di ral-di ro.
Gododd calon Lisa fach yr Hendre,
ffal-di ral-di ral-da ffal-di ral-di ro.
Dodaj adnotację do tego tekstu »
Historia edycji tekstu
Komentarze (0):